Syr Thomas Artemus Jones

(Llun: Powys Evans)

Un o’r ymgyrchwyr mwyaf ymroddedig ac effeithiol dros roi statws gyfartal i’r Gymraeg yn y llysoedd oedd y Barnwr Thomas Artemus Jones. Roedd yn fab i chwarelwr o Ddinbych a dechreuodd ei yrfa, ar ôl gadael y National School yno, yn gwerthu papurau newydd ar stondin WH Smith ar orsaf Dinbych cyn dod yn newyddiadurwr, yn fargyfreithiwr ac, yn 1930, yn farnwr llysoedd sirol Gogledd Cymru. Bu hefyd yn ddirprwy gadeirydd Llys Chwarter Sir Gaernarfon. Erbyn y tri-degau, felly, Artemus Joes oedd, i raddau helaith, wyneb y gyfraith yng Ngogledd Cymru.

Agwedd Artemus Jones at gymal iaith Deddf 1536 oedd, i’r graddau a oedd o fewn ei allu, i’w anwybyddu. Ni chai unrhyw barti na thyst anhawster pe bai’n dymuno siarad Cymraeg yn ei lys ef. Ond roedd yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oedd pawb o’i gyd-farnwyr yn fodlon dilyn yr un polisi yng ngoleuni’r cymal iaith. Hefyd, yn y Frawdlysoedd, roedd y barnwr pob amser yn farnwr uchel lys di-Gymraeg, wedi’i leoli yn Llundain ac a oedd yn dilyn y gylchdaith o gwmpas Cymru. Ac nid mater i’r barnwr yn unig oedd gosod cyweirnod ieithyddol y llys. Y drefn yn y llysoedd troseddol yn gyffredinol (gan gynnwys y Llys Chwarter) oedd bod angen i gofnod cael ei wneud o’r holl dystiolaeth lafar – ac yn Saesneg yr oedd yn rhaid i honno fod.

Rhoddodd Artemus Jones ei gefnogaeth, felly, i’r ymgyrch i ddiddymu’r cymal iaith, fel cam cyntaf tuag at ei weledigaeth o gael system o lysoedd dwyieithog, fel yn Quebec neu Dde Affrica.  

Denodd beirniadaeth Artemus Jones o ddrwg-effeithiau’r cymal iaith gryn dipyn o sylw a dechreuodd mwy a mwy o Gymry dylanwadol pwyso am gael gwared ohono. Ond wrth i’r pwysau hynny gynyddu, daeth datblygiad annisgwyl a drysllyd.

Ar 4 Chwefror 1937 gofynnodd Aelod Seneddol Llafur Gorllewin y Rhondda, Wil John, gwestiwn i’r Ysgrifennydd Cartref, Syr John Simon, yn Nhŷ’r Cyffredin.


Syr John Simon

(Llun: Gettyimages)

Roedd Syr John Simon, a oedd yn fargyfreithiwr enwog ac eisoes wedi gwasanaethu fel Twrnai Cyffredinol, yn hyderus ei fod yn gwybod cryn dipyn am y gyfraith. Ond, gyda llai o gyfiawnhãd, efallai, roedd hefyd yn credu ei fod yn gwybod cryn dipyn am Gymru gan fod ei dad wedi ei eni ym mhentref Stackpole Elidor (Ystangbwll Elidyr) yn Ne Sir Benfro.


Tudalen nesaf

Dechrau darlith

Hafan