Cyn olrhain hanes y Ddeiseb rhaid cymryd cam yn ôl a gofyn beth yn union oedd wedi gwneud statws y Gymraeg yn y llysoedd yn destun cymaint o sylw. Tarddiad y ddadl oedd un o gymalau y “Ddeddf Uno” (Deddf Cyfreithiau yng Nghymru 1536) a oedd yn ymwneud â iaith y llysoedd yng Nghymru:

“Also be it enacted by the Authority aforesaid,

(1) That all Justices, Commissioners, Sheriffs, Coroners, Escheators, Stewards, and their Lieutenants, and all other Officers and Ministers of the Law, shall proclaim and keep the Sessions Courts, Hundreds, Leets, Sheriffs Courts, and all other Courts in the English Tongue;

(2) and all Oaths of Officers, Juries and Inquests, and all other Affidavits,

Verdicts and Wagers of Law, to be given and done in the English Tongue;

(3) and also that from henceforth no Person or Persons that use the Welsh Speech or Language, shall have or enjoy any manner of Office or Fees within this Realm of England, Wales, or other the King's Dominion, upon Pain of forfeiting the same Offices or Fees, unless he or they use and exercise the English Speech or Language.”

Deddf Cyfreithiau yng Nghymru 1536

Effaith y cymal hwn (y cyfeirir ato rhai weithiau fel “y cymal iaith”) oedd gwneud y Saesneg yn unig iaith swyddogol y llysoedd yng Nghymru. Doedd hynny ddim yn gyfystyr, wrth gwrs, â gwahardd siarad Cymraeg yn y llysoedd – byddai hynny wedi golygu y byddai wedi bod yn ymarferol ambosibl i weinyddu cyfiawnder o gwbl mewn gwlad a oedd bron yn uniaith Gymraeg ei hiaith. Ond mater o ddisgresiwn y barnwr oedd caniatâu i dyst roi ei dystiolaeth yn Gymraeg. Pe bai hynny’n digwydd, byddai angen, wrth gwrs, i sylwedd y dystiolaeth honno gael ei chyfieithu i iaith swyddogol y Llys – sef Saesneg.

Roedd y drefn hon wedi bodoli am bron i 400 mlynedd nes i ddatblygiadau arwyddocâol ddechrau, tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ei rhoi dan straen. Y ffactorau perthnasol oedd:

Dylanwad addysg Saesneg, a olygai fod mwy a mwy o Gymry yn ddwyieithog a llai a llai yn Gymry uniaith;

Tueddiad cynyddol barnwyr, yn enwedig rhai nad oeddent yn gyfarwydd â Chymru, i ddechrau cwestiynu anallu tystion i roi eu tystiolaeth yn Saesneg;

Ar y llaw arall, tŵf ymwybyddiaeth y Cymry o’u hawliau cenedlaethol, gan wneud iddynt ddechrau cwestiynau pam fod yn rhaid iddynt gyfiawnhau siarad eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain.


Tudalen nesaf

Dechrau darlith

Hafan